2014 Rhif 1712 (Cy. 172)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2013.

Mae rheoliad 3 yn cyflwyno nifer o dermau newydd i’r rhestr o dermau a ddiffinnir yn Rheoliadau 2013. Mae “carcharor rhan-amser cymwys” yn garcharor sy’n bodloni gofynion cymhwystra penodol a nodir yn y diffiniad, gan gynnwys bod wedi ei awdurdodi i astudio cwrs addysg uwch rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Mae’r term “carcharor” yn cyfeirio at berson sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2013. Mae’r diwygiad hwn yn darparu bod rhaid i gwrs gael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig er mwyn cael ei ddynodi o dan Reoliadau 2013.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2013 mewn perthynas â chyfrifo’r cyfnod cymhwystra ar gyfer myfyrwyr cymwys sydd wedi dilyn cwrs addysg uwch blaenorol. Mae’r diwygiad hwn yn darparu na fydd cymorth penodol (y grant at gostau byw myfyrwyr anabl ac unrhyw un neu ragor o’r grantiau ar gyfer dibynyddion) yn cael ei ddal wrth gyfrifo’r cyfnod cymhwystra penodol hwn.

Mae rheoliadau 6, 8, 9 a 10 yn diwygio elfennau amrywiol o Reoliadau 2013 mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr cymwys rhan-amser. Mae’r diwygiadau hyn yn darparu, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, y bydd carcharorion sy’n garcharorion rhan-amser cymwys yn gallu cael mynediad i gymorth at ffioedd dysgu o dan Reoliadau 2013 mewn perthynas â chyrsiau addysg uwch rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu na fydd carcharorion, gan gynnwys carcharorion rhan-amser cymwys, yn gallu cael mynediad i unrhyw fath arall o gymorth rhan-amser o dan Reoliadau 2013.

Mae rheoliad 7 yn gwneud mân ddiwygiad i ffigur yn Rheoliadau 2013.

 

 

 


2014 Rhif 1712 (Cy. 172)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                             1 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym                    25 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 25 Gorffennaf  2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013([3]) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.

3.(1)(1) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

“ystyr “carcharor rhan-amser cymwys” (“eligible part-time prisoner”) yw carcharor—

(a)     sy’n dechrau’r cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014;

(b)     sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs rhan-amser presennol;

(c)     y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(d)     nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o dan reoliad 114 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014;

ystyr “grant at deithio” (“grant for travel”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 37 i 39;

ystyr “grant cymorth arbennig” (“special support grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 45 i 48;

ystyr “grant cynhaliaeth” (“maintenance grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 41 i 44;”.

(2) Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “eligible prisoner”, yn lle’r geiriau “prisoner Governor” yn is-baragraff (b) rhodder “prison Governor”.

4. Yn rheoliad 5(1)(e), ar ôl y geiriau “ddarparu’n gyfan gwbl” mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”.

5. Yn rheoliad 6(9), yn lle’r geiriau “neu grant at gostau byw” rhodder “grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig”.

6. Yn rheoliad 93, yn lle paragraff (4) rhodder—

“(4) Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys—

(a)     pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor rhan-amser cymwys; neu

(b)     mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”

7. Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 97(5)(g) yn lle “£1,886” rhodder “£1.886”.

8. Yn rheoliad 99, ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

“(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gwrs rhan-amser os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(11) Nid yw paragraff (10) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”

9. Yn rheoliad 100, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

“(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”

10.(1)(1) Yn rheoliad 101, yn lle paragraff (2) rhodder—

“(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.”

(2) Yn rheoliad 101, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

“(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”

 

 

 

Huw Lewis

 

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

 

1 Gorffennaf 2014

 



([1])           1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257, a Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2013/3177 (Cy. 316).